Mae S4C yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau amlygrwydd yr iaith Gymraeg a chefnogi democratiaeth yng Nghymru.  Mae gan y darlledwr rôl ganolog wrth gyflawni dyheadau strategol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r iaith Gymraeg, gan gynnwys ei hymrwymiad diweddaraf i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Mae cysylltiad agos rhwng sefyllfa S4C â bywiogrwydd iaith, diwylliant a hunaniaeth Cymru, felly rydym yn croesawu ymdrechion i sicrhau cynaliadwyedd y darlledwr ar gyfer y dyfodol. Mae ein cyflwyniad yn mynd i'r afael â'r themâu canlynol:

1.       Ariannu S4C

2.       Annibyniaeth a llywodraethu

3.       Perthynas S4C gyda'r BBC

4.       Cylch gwaith a gwelededd S4C mewn economi ddigidol

5.       Cynnal talent o Gymru

1. Ariannu S4C:

Fel y nodir yn adroddiad diweddar y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru (PDGC 2017), mae’r cyllid ar gyfer S4C wedi gostwng tua 36 y cant mewn termau real ers 2010. Byddai rhagor o doriadau sylweddol i gyllideb S4C, ochr yn ochr â thoriadau i gyllideb ganolog y BBC, yn cael effaith andwyol ar ansawdd ac amrywiaeth y cynnwys gwreiddiol a gomisiynir gan S4C.

Rydym o’r farn y byddai cael sefydlogrwydd yn nhrefniadau ariannol S4C yn caniatáu i'r darlledwr gynllunio'n effeithiol ar draws yr amrywiaeth o eang o raglenni a gomisiynir ganddi ar hyn o bryd. Mae ymchwil yn amlygu pwysigrwydd cynllunio strategol hirdymor mewn meysydd allweddol fel drama lle mae trefniadau cyd-gynhyrchu a chyd-ariannu cymhleth yn ennill eu plwyf yn gynyddol (McElroy a Noonan 2016). Felly, rydym yn argymell y dylid cael mwy o sicrwydd ynghylch y trefniadau ar gyfer cyllid craidd S4C yn y blynyddoedd i ddod.

Rydym hefyd yn credu y dylai unrhyw ymyrraeth yn y dyfodol fynd i'r afael â'r angen am lefelau digonol o gyllid. Byddai cyllid priodol yn galluogi S4C i barhau i ddarparu’r ystod eang o raglenni gwasanaeth cyhoeddus a ddarperir ganddi ar hyn o bryd, gan gynnwys ym meysydd newyddion, materion cyfoes, drama, y celfyddydau, adloniant ffeithiol a chynnwys i blant. Yn ein barn ni, mae'n hanfodol bod darpariaeth Gymraeg o bwys ym mhob un o'r genres yma i allu diwallu anghenion amrywiol y gymuned gyfan. Rhaid i ddarlledwyr ieithoedd lleiafrifol fel S4C ddenu a darparu ar gyfer cynulleidfaoedd sy’n amrywio’n fawr o ran oedran a diddordebau, yn ogystal â sicrhau bywiogrwydd a gwydnwch gweithredol yr iaith. Felly, mewn trafodaethau am drefniadau cyllido, rhaid ystyried cyfraniad unigryw y darlledwr at hunaniaeth greadigol a chymdeithasol y DU.

Fel y nodwyd yn adroddiad PDGC (2017), rhaglenni a gaiff eu hailddangos sydd i’w cyfrif am 57 y cant o allbwn S4C erbyn hyn. Rydym yn credu bod trefniant ariannu sefydlog a phriodol yn hanfodol er mwyn comisiynu rhagor o gynnwys gwreiddiol. Er mai am resymau ariannol y gwneir hyn yn aml, nid yw cynulleidfaoedd yn eu gwerthfawrogi bob amser ac mae hefyd yn lleihau’r ymgysylltiad rhwng y darlledwr a'r sector cynhyrchu. Mae prosiectau cydweithredol gyda chwmnïau cynhyrchu annibynnol yn galluogi’r darlledwr a’r cwmni cynhyrchu i gyflwyno prosiectau o raddfa ac uchelgais greadigol, ac maent yn cynhyrchu refeniw drwy hawliau eilaidd a gwerthu cynnwys a fformatau i’r farchnad dramor.

Mae ymchwil yn dangos pwysigrwydd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fel S4C i gynaliadwyedd y sector teledu yng Nghymru yn ogystal â’r economi greadigol gynhenid (McElroy, Noonan a Blandford 2015; McElroy a Noonan 2016). O ran gwerth economaidd y gellir ei fesur (e.e. comisiynu yn lleol, defnyddio gweithwyr llawrydd) honnir bod pob £1 a fuddsoddir gan S4C yn economi Cymru a’r DU yn cynhyrchu gwerth ariannol o £2.09 (Adroddiad Blynyddol S4C 2015/16 : 67). Ar ben hynny, mae gwaith S4C yn cael cryn effaith anuniongyrchol e.e. o ran hyrwyddo diwylliant a thirwedd Cymru i gynulleidfaoedd fyd-eang drwy eu strategaeth gomisiynu, fel gyda rhaglen ddrama ragorol Y Gwyll (McElroy, Noonan a Blandford 2015 ; McElroy a Noonan 2016). Felly, byddai cryfder economaidd a chreadigol S4C yn cyfrannu at gynaliadwyedd yr economi greadigol yma yng Nghymru.

2. Annibyniaeth a llywodraethu:

Yn ein barn ni, dylai S4C barhau i fod yn ddarlledwr annibynnol sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus. Dylai hefyd fod â’i systemau llywodraethu ei hun. O ystyried cymhlethdod ei gylch gwaith, mae'n hanfodol ei fod yn cadw ei annibyniaeth a’i hawl i wneud penderfyniadau golygyddol er mwyn cyflawni ei gyfraniad at Gymru a'i chymunedau. Fodd bynnag, dylai fod atebolrwydd a thryloywder priodol ar gyfer annibyniaeth o'r fath o ystyried y swm sylweddol o arian cyhoeddus dan sylw.

Rydym yn croesawu diddordeb y pwyllgor mewn ystyried datganoli cyfrifoldeb darlledu a/neu S4C i Gymru. Mae hwn yn fater cymhleth ac mae’n codi llawer o faterion pellach i'w hystyried o safbwynt polisi a rheoleiddio. Byddem yn annog trafodaethau cyhoeddus ac ymchwil pellach i’r newid posibl hwn, yn enwedig o ran y goblygiadau ariannu, trefniadau rheoleiddio, dosbarthiad ar draws y sbectrwm a sut y byddai hyn yn effeithio ar dirwedd cyfryngol ehangach Cymru. Mae'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astuiaethau Diwylliannol mewn sefyllfa i allu hwyluso’r ddadl hon ac rydym yn croesawu'r cyfle i gyfrannu ymhellach.

3. Perthynas S4C gyda’r BBC

Mae ecoleg benodol y cyfryngau yng Nghymru yn golygu ei bod yn hanfodol cael lluosogrwydd mewn darpariaeth. Mae'n amlwg bod S4C wedi cael perthynas gydweithredol gyda'r BBC dros y blynyddoedd diwethaf a cheir tystiolaeth o gydweithio llwyddiannus. Mae ymchwil yn amlygu manteision rhannu adnoddau i’r ddau sefydliad, yn enwedig o ran cynhyrchu Pobol y Cwm yn stiwdio ddrama Porth y Rhath fel rhan o'r trefniant statudol (McElroy, Noonan a Blandford 2015; McElroy a Noonan 2016). Mae manteision y trefniant hwn yn cynnwys bod yn economaidd effeithlon a gwerthoedd cynhyrchu gwell, ynghyd â rhannu adnoddau gan gynnwys llafur medrus. Gallai perthynas adeiladol rhwng y prif ddarparwyr cyfryngau Cymraeg ddatblygu cynnwys Cymraeg a’i gwelededd. Gallai hefyd gyflawni gwerth economaidd gwirioneddol yn enwedig mewn meysydd allweddol fel drama a newyddion.

Fodd bynnag, byddem yn annog y pwyllgor ac adolygiad DCMS i fod yn wyliadwrus dros y blynyddoedd nesaf, yn enwedig yn sgîl Siarter newydd y BBC, Bwrdd Unedol newydd y BBC a'r newid yng nghyfrifoldebau rheoleiddio OFCOM. Er mwyn gwneud yn siŵr bod talwyr ffioedd y drwydded yn cael gwerth am arian, yn ogystal â diogelu annibyniaeth S4C fel darlledwr Cymraeg cyhoeddus, bydd angen cadw llygad barcud ar unrhyw drefniadau newydd sy’n ymwneud â chyflenwad statudol y BBC a’i drefniadau gweithredol gyda S4C.

4.      Cylch gwaith S4C a’i gwelededd mewn economi ddigidol

Cwestiwn sy’n cael ei ofyn yn gynyddol ymysg llunwyr polisïau ar draws Ewrop yw sut gall yr egwyddorion sydd wedi’u hymgorffori’n draddodiadol ym maes darlledu gwasanaeth cyhoeddus, gael eu trosglwyddo’n llwyddiannus i'r byd ar-lein. Un o'r atebion mwyaf amlwg yw trawsnewid darlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB) fel bod sefydliadau’n cael eu hystyried fel darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus (PSM).

Felly, hoffem i’r pwyllgor hwn ac adolygiad DCMS addasu cylch gwaith S4C er mwyn iddi allu manteisio’n llawn ar ddarpariaeth aml-lwyfan. Rydym yn cefnogi unrhyw newid mewn polisi a fyddai’n caniatáu i S4C gryfhau ei phresenoldeb digidol cryf a’i galluogi i greu mwy o gynnwys digidol er mwyn eu dosbarthu ar lwyfannau newydd ac i gynulleidfaoedd newydd. Mae hyn yn hanfodol er mwyn apelio at gynulleidfa eang yng Nghymru a thu hwnt. Yn hollbwysig, byddai’n sicrhau ei bod yn gallu denu'r genhedlaeth nesaf o wylwyr S4C. Bydd gwasanaeth ‘Clic’ S4C a'r cynnwys sydd ar wasanaeth iPlayer y BBC yn hanfodol er mwyn gwneud yn siŵr bod yr iaith i’w gweld a bod cynnwys Cymraeg yn amlwg mewn amgylchedd cyfryngau digidol, er y byddai goblygiadau i hynny, wrth gwrs, o ran cost a refeniw. Byddai defnyddio gwasanaethau fideo ar alw yn fwy rheolaidd yn rhoi mwy o ryddid creadigol (e.e. comisiynu cynnwys ffurf fer yn yr iaith Gymraeg), mwy o gost-effeithlonrwydd, a chael gwell gwerth o gynnwys llinol traddodiadol. I gymuned y siaradwyr Cymraeg, dylai S4C fod yn ddarparwr aml-gyfrwng yn hytrach na gwasanaeth teledu yn unig.

Fodd bynnag, er bod gweledigaeth o'r fath yn ddeniadol, ceir rhwystrau ymarferol. Yn 2015/16, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau cyfnewid gwybodaeth rhwng y byd academaidd a’r diwydiant yng Nghaerdydd a Denmarc i drafod yr heriau darlledu mewn cenedl fach.[1] Roedd yr anawsterau a godwyd gan rai o gynrychiolwyr y darlledwyr oedd yno yn ymwneud â gweithgareddau rheoli mynediad rhai gweithgynhyrchwyr caledwedd (ee setiau teledu clyfar) a llwyfannau ar-lein sy’n aml yn gweithredu yn Saesneg yn unig. Dyma fater a godwyd hefyd yn adroddiad y Pwyllgor (CWCL 2016) ac rydym yn cytuno â'r argymhelliad y dylai llywodraeth y DU ac Ofcom ystyried diwygio Côd Darlledu Ofcom yn y maes hwn, ond hoffem hefyd weld y mater hwn yn cael ei gynnwys yn y Mesur Economi Ddigidol.

Rydym hefyd o'r farn y byddai rhannu arfer da a chynnal deialog arbenigol ar draws llunwyr polisïau mewn marchnadoedd ieithoedd lleiafrifol eraill (ee Iwerddon, Denmarc) yn galluogi lobïo mwy effeithiol yn y maes hwn, er budd i S4C yn y tymor hir. Wrth gwrs, nid oes amheuaeth y bydd Brexit yn effeithio ar hyn, ond credwn y byddai llais cryfach ac amlochrog sy’n cwmpasu meysydd polisi a rheoleiddio, yn cael mwy o sylw ac effaith mewn trafodaethau gyda chorfforaethau mawr, byd-eang fel Google, Samsung ac Apple.

5. Cynnal talent o Gymru:

Mae dyfodol S4C yn gwbl ganolog i gynaliadwyedd gweithlu creadigol a chynhenid fel adnodd i Gymru, yn ogystal ag er mwyn hyrwyddo diwylliant a hunaniaeth Cymru i'r byd.

Mae'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn Addysg Uwch (AU) yn cynyddu. Yn 2014/15 roedd 6,355 o fyfyrwyr mewn sefydliadau AU yng Nghymru yn cael o leiaf rhan o’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, cynnydd o 21 y cant ers 2013/14 (Llywodraeth Cymru 2016). Yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, mae nifer y myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer modiwlau iaith Gymraeg wedi cynyddu 100 y cant dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae ein carfan yn cynrychioli trawsdoriad eang o siaradwyr Cymraeg, rhai iaith gyntaf, ac eraill yn ail iaith.

Rydym eisoes wedi ymrwymo'n llwyr i feithrin a llywio talent y dyfodol ac rydym yn credu ei bod yn hanfodol bod gan Gymru farchnad lafur iach i ddenu a chadw graddedigion disglair. Mae’r cyfryngau Cymraeg yn gyrchfan i lawer o'n graddedigion ac mae S4C yn hanfodol yn hyn o beth, fel cyflogwr uniongyrchol a hefyd trwy gomisiynu cynnwys a gynhyrchir yn annibynnol, yn ogystal â gwasanaethau iaith a chyfathrebu.

Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn elwa'n uniongyrchol o gyfleoedd a geir drwy gydweithio’n rheolaidd â phartneriaethau, cyfnewid gwybodaeth a lleoliadau gwaith gyda S4C a'r cyfryngau ehangach yng Nghymru. Eleni bydd yr Ysgol, yr Eisteddfod Genedlaethol, C4CJ (Canolfan arloesol JOMEC ar gyfer Newyddiaduraeth Gymunedol) ac S4C yn cydweithio ar brosiect yn yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf yn Sir Fôn. Mae 'Llais y Maes' yn wasanaeth newyddion digidol arloesol lle caiff ein myfyrwyr hyfforddiant uniongyrchol mewn sgiliau digidol a newyddiadurol cyfoes. Ar ben hyn, mae cydweithio parhaus rhwng JOMEC ac ITV Cymru yn caniatáu i fyfyrwyr sy’n astudio ein modiwlau 'Ystafell Newyddion' gyhoeddi cynnwys gwreiddiol ar wefan S4C, trwy ei rhaglen materion cyfoes ieuenctid 'Hacio'. Mae'r gweithgareddau hyn yn llwyddiannus ac yn annog pobl ifanc i gyfathrebu'n broffesiynol trwy gyfrwng y Gymraeg, gan ennill hyder a gwella eu sgiliau digidol. Mae hyn hefyd yn cyfrannu at wytnwch a phri’r iaith. Fel y dadleuodd Moring (2013: 35) ‘In simple practical terms, media can be seen as one of the many activities that affect our daily language use, informing it, renewing it and reforming it’.

Mae gweithlu ieithyddol amrywiol ac sy’n llythrennog yn ddigidol yn cynnig gwerth gwirioneddol i economi Cymru. Rydym yn credu bod cydweithredu fel yn yr enghraifft a nodwyd uchod yn galluogi sefydliadau megis Prifysgol Caerdydd ac S4C i wella’r economi greadigol yng Nghymru yn uniongyrchol. Rydym yn credu bod gan S4C sydd mewn sefyllfa ariannol a gweithredol i ategu hyfforddiant ffurfiol, rhannu arbenigedd ac adnoddau (e.e. o ran comisiynu digidol a chynhyrchu) ac sy'n ehangu meysydd gwaith proffesiynol creadigol yn Gymraeg, rôl hanfodol yn narpariaeth greadigol a diwylliannol Cymru.

Casgliad:

I grynhoi, rydym yn credu bod y canlynol yn hollbwysig wrth ystyried dyfodol S4C:

-        Cyllid craidd sefydlog sy'n galluogi cynllunio strategol ac uchelgeisiol mewn maes cyfryngau cynyddol gystadleuol.

-        S4C annibynnol sy’n dosbarthu adnoddau mewn modd cwbl agored.

-        Cydweithrediad parhaus rhwng y BBC ac S4C i roi manteision creadigol a chost-effeithiol.

-        Cynnal ystod eang o raglenni o fewn allbwn S4C gyda phwyslais ar gynnwys gwreiddiol.

-        Ehangu ei chylch gwaith i alluogi'r gwasanaeth i chwarae rhan fwy canolog yn seilwaith digidol yr iaith Gymraeg.

-        Cydweithio agos â darparwyr addysg Gymraeg ac S4C er mwyn gwella'r farchnad lafur greadigol yng Nghymru.

Cyfeiriadau:

-        Culture, Welsh Language and Communications Committee (CWLC) (2017) The Big Picture: The Committee’s Initial View on Broadcasting in Wales.  Available at: www.assembly.wales/laid%20documents/cr-ld10916/cr-ld10916-e.pdf

-        Centre for Media and Culture in Small Nations (2016) Television from Small Nations building a network for cultural and commercial success.  Available at: https://smallnationstv.files.wordpress.com/2015/09/television-from-small-nations-report.pdf

-        McElroy, R; Blandford, S & Noonan, C (2015) Television Drama Production in Wales BBC Wales: Roath Lock Studios. Centre for the Study of Media and Culture in Small Nations. Available at: http://culture.research.southwales.ac.uk/media/files/documents/2015-11-11/Television_Drama_Production_in_Wales.pdf

-        McElroy, R. & Noonan, C. (2016) Television Drama Production in Small Nations: mobilities in a changing ecology. Journal of Popular Television: special issue, vol. 4, no. 1: pp 109-127.

-        Moring, T. (2013) Media Markets and Minority Languages in the Digital Age.  Journal on Ethnopolitics and Minority Issues in Europe. Vol. 12, no 4; pp: 34-53

-        Noonan, C. & Powell, S. (2016) A Future for Public Service Television: Content and Platforms in a Digital World. Submission to the Future of TV Inquiry.  Available at: http://futureoftv.org.uk/wp-content/uploads/2016/05/Sian-Powell-and-Caitriona-Noonan.pdf

-        Welsh Government (2016) Statistical Bulletin: Welsh Language in Higher Education Institutions.  Statistics for Wales.  29 Sept: SB43/2016.

Bywgraffiadau

Sian Morgan Lloyd yw Cyfarwyddwr y Rhaglen ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, Prifysgol Caerdydd. Ar hyn o bryd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n ariannu ei swydd. Am dros ddegawd, bu Sian yn ddirprwy olygydd ac yn ohebydd ar raglen materion cyfoes 'Y Byd ar Bedwar' ac ar gyfer ITV News a rhaglenni ffeithiol.

Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, Prifysgol Caerdydd

Dr Caitriona Noonan is Lecturer in Media and Communication at the School of Journalism, Media and Cultural Studies (JOMEC) at Cardiff University. Before joining academia Caitriona worked as a market adviser in the area of digital and broadcast media for Enterprise Ireland, the trade development agency of the Irish government. Caitriona’s research expertise lies in the areas of television production cultures and creative labour. She sits on the steering group of the Centre for the Study of Media and Culture in Small Nations.

School of Journalism, Media & Cultural Studies, Cardiff University



[1] These events were part of an AHRC funded network project.  For more information see: https://smallnationstv.org/